Mae Comenius yn un o’r rhaglenni addysg rhyngwladol mwyaf poblogaidd ar gyfer ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn y DU.
Mae Comenius yn rhan o’r Rhaglen Dysgu Gydol Oes. Mae’n darparu cyfleoedd i ysgolion a cholegau gyflwyno neu gryfhau y dimensiwn Ewropeaidd yn eu cwricwlwm. Galluoga partneriaethau newydd Comenius Regio i awdurdodau lleol gyfranogi’n uniongyrchol.
- Enwyd Rhaglen Comenius ar ôl Jan Amos Comenius, gŵr a ystyrid yn aml fel tad addysg fodern
- Anelir Comenius at ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ar draws Ewrop
Mae i Comenius ddwy brif nod, sef:
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymysg pobl ifanc a staff addysgol o’r amrywiaeth mewn diwylliannau a ieithoedd Ewropeaidd, ac o werth yr amrywiaeth hon
- helpu pobl ifanc i ennill sgiliau byw a chymwysterau sylfaenol, ar gyfer eu datblygiad personol, eu cyflogaeth yn y dyfodol a’u dinasyddiaeth Ewropeaidd
Os ydych yn gweithio mewn ysgol, coleg, awdurdod lleol neu goleg hyfforddi athrawon rydych yn debyg o fod yn gymwys i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir trwy Comenius.
Am wybodaeth bellach, ewch i wefan swyddogol Comenius.
|