- mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn cynnig sail gadarn i ddatblygu partneriaeth gwricwlwm ar y cyd
- gallwch rannu arfer gorau
- gallwch ddatblygu gwell dealltwriaeth o strwythur a threfn eich ysgol bartner
Mae cyllid ar gael i alluogi athrawon a phrifathrawon i ymweld ag ysgol bartner mewn unrhyw wlad sy’n cael ei hystyried yn gyrchfan siwrnai hir (h.y. y tu allan i Ewrop). Dylai pwrpas yr ymweliad fod i sefydlu partneriaeth ar sail y cwricwlwm neu i ddatblygu cyswllt sy’n bodoli eisoes.
Gellir ariannu costau teithio, cynhaliaeth a llety. Uchafswm y grant i bob person ar gyfer ymweliad yw £1,000.
Sylwer y gellir cymeradwyo ceisiadau am ymweliadau yn ystod y flwyddyn ariannol y gwneir y cais ynddi yn unig. Ni allwn eithrio neb rhag y rheol hon.
Athrawon a phrifathrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig, colegau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach yng Nghymru.
Llawrlwythwch a cwblhewch yr ffurflen gais , gan yn wneud yn siwr eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau cysylltiedig yn gyntaf.
Yn dilyn eich ymweliad bydd angen i chi gwblhau ffurflen cysoni ac adroddiad, pan fyddwch yn gwneud hyn darllenwch y nodiadau arweiniol.
Dyddyiad cau y rhaglen yma yw'r 6ed o Ionawr 2012.
Am fwy o fanylion am y rhaglen cysylltwch â 02920 924310 neu e-bost wales.enquiries@britishcouncil.org.
|