Deellir fwyfwy fod y Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg yn elfen bwysig o addysg ysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'n ategu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF), a fu'n flaenoriaeth o ran polisi addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru ers 2004 ac, yn ôl Estyn, mae'n ddeilliant dysgu allweddol i'w asesu mewn arolygiadau o ysgolion o fis Medi 2010.
Ar y cyd ag APADGOS, Awdurdodau Lleol Cymru, Estyn, Sefydliad Addysg Caergrawnt a'r OECD, bu'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SCYA) a CEWC-Cymru yn gweithio'n agos â'r British Council ar fesur effaith y Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg (DRhA) mewn ysgolion yng Nghymru, yn bennaf drwy ddatblygu a threialu hunanasesiad a chanllawiau cysylltiedig.
Cynlluniwyd yr hunanasesiad i helpu ysgolion i roi'r gorau i greu cofnod ffeithiol o'r gwaith DRhA a wneir ganddynt a dechrau canolbwyntio ar sut mae'r DRhA o fudd i'r ysgol, o ran cyfrannu at effeithiolrwydd addysgol, cydlyniant cymdeithasol ac agweddau a gwerthoedd dysgwyr ac athrawon.
Yn ogystal â bod yn werthfawr mewn termau addysgol ynddo'i hun, drwy wneud effaith DRhA yn fwy amlwg, byddai ysgolion yn gallu defnyddio'r adnodd i asesu pa mor effeithiol y bu eu gweithgareddau DRhA wrth gyflawni elfennau allweddol o'r cwricwlwm ysgol.
Wrth ddatblygu'r adnodd asesu, cynhaliwyd astudiaethau achos trylwyr mewn wyth ysgol, sef pedair ysgol uwchradd, tair ysgol gynradd ac un ysgol arbennig, sy'n defnyddio'r dimensiwn rhyngwladol i raddau gwahanol. Deuai'r ysgolion o amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal â chanfyddiadau'r gwaith ymchwil a datblygu'r adnodd asesu, bu British Council Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu amryw o syniadau ar gyfer prosiectau rhyngwladol i helpu ysgolion i ymgysylltu â'r Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg.
Mae British Council Cymru yn cynnal amryw o brosiectau sy'n dwyn ynghyd ysgolion y DU ag ysgolion ledled y byd, er budd hwy i gyd. Byddem yn hapus iawn i glywed gennych a thrafod eich anghenion a sut y gallwch;
- Gael gwybodaeth sy'n dangos gwerth DRhA i effeithiolrwydd eich ysgol a datblygiad eich disgyblion.
- Defnyddio adnodd cyfredol er mwyn cynllunio a gwerthuso gweithgarwch DRhA yn well.
- Cael eich ysbrydoli gan weithgareddau sydd wedi bod yn llwyddiant.
- Gwybod â phwy i siarad am gyngor ymarferol, arweiniad a chymorth ariannol.
|