Mae'r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i chi brofi eich sgiliau siarad Tsieinëeg Mandarin o flaen cynulleidfa o ysgolion o bob rhan o'r DU a phanel o feirniaid o fri.
Mae'r gystadleuaeth hon ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd yn y DU* nad ydynt yn siaradwyr brodorol Tsieinëeg Mandarin ac sydd wedi dysgu'r iaith o'r dechrau heb fantais. I gael manylion llawn cymhwysedd, darllenwch y Telerau ac Amodau.
*myfyrwyr ysgol uwchradd, chweched dosbarth a cholegau AB yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw ym mlynyddoedd 7-13 (Cymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw), blynyddoedd S1-S6 (yr Alban) a blynyddoedd 8-14 (Gogledd Iwerddon). Mae myfyrwyr yn Lloegr mewn dosbarthiadau sy'n cyfateb i flynyddoedd 7 i 9 e.e. mewn ysgolion paratoi neu ysgolion canol hefyd yn gymwys i gystadlu.
Yn yr adran , gyda'r categorïau canlynol: Dechreuwyr; Canolradd ac Uwch, mae'r beirniaid yn chwilio am gyfathrebu a chyflwyno gwirioneddol, nid perfformiad wedi'i ymarfer. Rhywun sydd wedi meistroli'r iaith Mandarin ar lefel briodol i'w dysgu fydd enillydd pob categori.
Yn yr adran , i bump neu chwech o gystadleuwyr o ddau grŵp blwyddyn, o leiaf, o'r un ysgol neu goleg, mae'r beirniaid yn chwilio am berfformiad drama grŵp lle mae pob un o'r cystadleuwyr yn cymryd rhan ac yn defnyddio'r iaith.
Ceir manylion llawn cynnwys pob adran a chategori yn y Meini Prawf Beirniadu.
Y wobr o ymweliad diwylliannol wythnos o hyd i Beijing (5-13 Ebrill 2012 cynhwysol) i'r myfyrwyr buddugol yw rhan yn unig o'r atyniad. Mae'n amlwg bod enillwyr a'u hathrawon yn falch o'u cyflawniadau a'r gydnabyddiaeth a ddaw yn sgîl ennill, ac mae pawb yn cael budd o'r ymarferion a'r cyflwyno neu berfformio o flaen cynulleidfa. Os byddwch yn ennill y rowndiau rhanbarthol byddwch yn treulio diwrnod cyfan yn Amgueddfa Prydain yn Llundain ar gyfer y rownd derfynol, a darperir gweithgareddau ychwanegol i chi gael gweld arddangosion Tsieineaidd a dysgu rhagor am ddiwylliant Tsieina.
Mae croeso i ysgolion newydd gystadlu, hyd yn oed os ydych newydd ddechrau addysgu cyrsiau Mandarin ar y cwricwlwm neu'n allgyrsiol.
|