Text only English
 Argraffu’r dudalen hon | E-bostio’r dudalen hon| Ychwanegu at ffefrynnau
Astudio yng Nghymru
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn ffynnu yng Nghymru o ganlyniad i’r gwasanaethau myfyrwyr safonol sy’n cynnwys cefnogaeth gyda’r iaith Saesneg, sgiliau dysgu a chefndir diwylliannol. Y blaenoriaethau yw cymhareb isel ar gyfer staff-myfyrwyr, cefnogaeth a chymorth un wrth un, ac ymateb personol i ofynion penodol myfyrwyr rhyngwladol.
Llawlyfr Astudio Yng Nghymru
Darllenwch ein canllaw i astudio yng Nghymru.
GWEFAN ‘EDUCATION UK’
Woman wearing headscarf smiling Photographer: Mat Wright Copyright British Council Gallai astudio yn y DU gostio llai na’r disgwyl, yn arbennig os ystyriwch wir werth cymhwyster a enillwyd yn y DU. Ewch ar ein gwefan Education UK i chwilio am ysgoloriaethau ac i gael gwybodaeth am ffioedd ar gyfer pob math ar gyrsiau a darganfod beth fyddai cost debygol astudio yn y DU.
CYNGOR AR GAEL FISA
Od bwriadwch astudio yn y DU, yna bydd angen fisa arnoch. Ewch ar wefan UK Visas i ddarganfod sut i ymgeisio am y fisa iawn ar yr amser iawn. Mae’r safle hefyd yn cynnig cyngor ar ofynion mewnfudo i’r DU.
BYW YNG NGHYMRU
Mae gwir gryfderau addysg bellach yng Nghymru yn ymestyn y tu hwnt i safon diguro y dysgu a’r ymchwil. Maent i’w darganfod yn yr amgylchfyd diogel a godidog, yn y diwylliant unigryw ac yn y dull o fyw sy’n gymharol rhad.
Dysgu Saesneg yng Nghymru
Os ydych am roi prawf ar eich sgiliau yn yr iaith Saesneg a’u datblygu, yna fe allwn eich helpu. Beth bynnag yw lefel eich cyrhaeddiad, gallwn gynnig cyrsiau, adnoddau ac arholiadau i gwrdd â’ch gofynion.
Os am olwg gyffredinol ar yr holl brifysgolion yng Nghymru, y dewisiadau o gyrsiau sydd ar gael, y gefnogaeth a’r llety i fyfyrwyr, edrychwch ar e-arweinlyfr Consortiwm Rhyngwladol Cymru.
Cysylltiadau
Prifysgolion
Colegau Addysg Bellach
Wales.com
Visit Wales
ColegauCymru
CCAUC - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn darparu gwybodaeth gyffrous am y posibiliadau ym maes addysg uwch yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr o wledydd tramor.
MYNNWCH WYBOD MWY
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol.
Elusen gofrestredig: 209131 (Lloegr a Chymru)
SCO37733 (Yr Alban)
Ein datganiadau ar breifatrwydd a hawlfraint.
Ein hymrwymiad i ryddid gwybodaeth.
 Positive About Disabled People