Os ydych yn athro yng Nghymru, gallwn gynnig i chi ac i’ch ysgol y cyfle i sefydlu cyswllt â’ch cymheiriaid o gwmpas y byd trwy gyfrwng cynlluniau cyfnewid, cyfleoedd datblygu, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Nod y rhaglen hon yw datblygu cymuned o fyfrwyr fydd yn mwynhau gwell cyswllt gyda chymheiriaid tramor, gan ddatblygu canfyddiad deallus o’u diwylliant a’u dyheadau.
Rydym yn hyrwyddo a chefnogi cysylltiadau cynaliadwy, tymor hir rhwng ysgolion yng Nghymru ac ysgolion mewn gwledydd sy’n datblygu, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gyd-ddibyniaeth byd-eang a datblygiad cynaliadwy.
Mae Gefeillio Electronig yn galluogi ysgolion mewn 32 o wledydd Ewropeaidd i weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Ffurfir partneriaethau ar-lein; gwelir athrawon a’u disgyblion yn cydweithredu ar ystod o brosiectau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, gan ddefnyddio arfau cyffrous ac arloesol TGCh.
Mae British Council Cymru wedi cynhyrchu arweinlyfr a thaflen dwyieithog fel adnodd i ysgolion Cymru, sy’n cynnig arolwg o’r cyfleoedd sydd ar gael.
INDIE
Prosiect sy’n cael ei arwain gan y British Council yw INDIE – Cynhwysiant ac Amrywiaeth mewn Addysg – a’i nod yw hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a chodi safonau addysgol mewn ysgolion sy’n ddiwylliannol gynhwysol.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r dull gweithredu hwn, mae British Council Cymru yn cynnig cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn rhaglen Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol.
Rhaglen etifeddiaeth chwaraeon ryngwladol swyddogol Llundain 2012. Mae'n defnyddio grym chwaraeon i gyfoethogi bywydau miliynau o blant a phobl ifanc o bob gallu, mewn ysgolion a chymunedau ledled y byd, drwy ddarparu cyfleoedd addysg gorfforol, chwaraeon a chwarae cynhwysol o safon uchel.
Cymuned ar-lein yw British Council Schools Online gydag amrywiaeth o offer ar-lein a gynlluniwyd i helpu i alluogi athrawon i rwydweithio â'i gilydd, chwilio am a rhannu cyngor, cynnig mynediad at adnoddau datblygiad proffesiynol ac ymuno neu ffurfio partneriaethau gydag ysgolion i weithio gyda'i gilydd ar brosiectau rhyngwladol.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Lloegr a Chymru) SCO37733 (Yr Alban) Ein datganiadau ar breifatrwydd a hawlfraint. Ein hymrwymiad i ryddid gwybodaeth.