Ydych chi yn athro profiadol, yn brifathro neu’n ddarlithydd Addysg Bellach sy’n chwilio am sialens newydd ac am gyfle i rannu syniadau gyda chydweithwyr ar draws y byd? Rydym ni yn darparu nifer o raglenni ar ddatblygiad proffesiynol i gwrdd â’ch anghenion.
Os ydych yn athro iaith Gymraeg, mae’n bosibl y bydd gennych ddiddordeb yn ein partneriaeth gyda Phatagonia. Ers 1997 bu athrawon o Gymru yn dysgu Cymraeg yn y cymunedau lleol a bu darpar diwtoriaid lleol yn dod i Gymru i ddilyn cyrsiau dwys yn y Gymraeg.
Mae rhaglen hyfforddiant mewn swydd Cyngor Ewrop yn galluogi athrawon, prifathrawon, hyfforddwyr athrawon, arolygwyr ysgolion a staff addysgol eraill o’r 49 gwladwriaeth sy’n aelodau o’r Cyngor Cydweithredu Diwylliannol i gymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant mewn swydd.
Mae DelPHE-Irac yn cefnogi partneriaethau rhwng sefydliadau addysg uwch Iracaidd a sefydliadau cyffelyb mewn gwledydd eraill. Gall prosiectau gynnwys nifer o wahanol adrannau a sefydliadau.
Ydych chi wedi meddwl am gyfranogi mewn gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd mewn gwlad Ewropeaidd arall? Gall athrawon a staff addysgol eraill yr ysgol fynychu cwrs neu gysgodi swydd mewn ysgol sy’n bartner dan y cynllun.
Mae Erasmus yn cynnig cyfleoedd mewn addysg a hyfforddiant i staff addysgu a staff eraill Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Uwch/Addysg Bellach. Mae’n gyfle gwych i ddysgu neu weithio mewn gwlad arall yn yr UE a dod i adnabod gwahanol systemau addysgol.
Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac achrediad, wedi eu hanelu at athrawon sydd â’r syniad o bartneriaeth ysgol fyd-eang yn ddieithr iddynt, yn ogystal â’r rhai hynny sydd â phrofiad o bartneriaethau ac sy’n awyddus i ymestyn eu harbenigedd proffesiynol.
Rhaglen yw Cyswllt rhwng Arweinwyr y Dyfodol, a drefnwyd gan British Council Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymulliad Cymru a BBC Cymru. Mae’n rhoi i chi’r cyfle i ddatblygu perthynas â chymheiriaid yn y DU trwy gyfrwng lleoliad byr gydag adrannau perthnasol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru a BBC Cymru.
Rydym yn cynnig ystod o gyfleodd ar gyfer datblygiad proffesiynol i athrawon sydd â’r syniad o bartneriaeth ysgol fyd-eang yn ddieithr iddynt, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n awyddus i ymestyn eu profiad proffesiynol.
Mynnwch wybod am raglen hyfforddiant mewn swydd Cyngor Ewrop - ar gyfer athrawon, prifathrawon, hyfforddwyr athrawon, arolygwyr ysgolion a staff addysgol eraill.
Ceisiwch wybodaeth am weithdai datblygu proffesiynol ar gyfer athrawon o’r DU sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen gefeillio electronig.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Lloegr a Chymru) SCO37733 (Yr Alban) Ein datganiadau ar breifatrwydd a hawlfraint. Ein hymrwymiad i ryddid gwybodaeth.