Mae bron dair miliwn o fyfyrwyr ledled Ewrop wedi cael budd o gyfnod o astudio neu leoliad gwaith tramor ers sefydlu'r rhaglen Erasmus yn 1987; roedd dros 200,000 o'r myfyrwyr hyn o'r DU. Yn ei blwyddyn gyntaf, cymerodd 3,244 o fyfyrwyr ifanc, anturus ran yn un o'r 11 o wledydd a gymerodd ran yn y rhaglen i ddechrau. Bellach mae 33 o wledydd yn cymryd rhan yn y cynllun - y 27 o aelod-wladwriaethau'r UE, Croatia, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir a Thwrci. Dros y 25 mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd parhaus yn nifer y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan ac yn ansawdd ac amrywiaeth y gweithgareddau arfaethedig.
O dan y slogan, 'Erasmus: newid bywydau, agor meddyliau ers 25 mlynedd', lansiwyd dathliadau'r 25 mlynedd ym Mrwsel ar 30 Ionawr gan Androulla Vassiliou, Comisiynydd Ewrop dros Addysg, Diwylliant, Amlieithrwydd ac Ieuenctid. Mae natur symudol y cynllun Erasmus wrth wraidd strategaeth y Comisiwn i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc drwy ganolbwyntio'n fwy ar ddatblygu sgiliau
Dywedodd y Comisiynydd Vassiliou: "Erasmus yw un o lwyddiannau mawr yr Undeb Ewropeaidd: dyma ein rhaglen fwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd. Mae teithiau cyfnewid Erasmus yn galluogi myfyrwyr i wella'u gwybodaeth o iaith dramor ac i ddatblygu sgiliau megis hyblygrwydd sy'n gwella'u rhagolygon o gael swydd. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i athrawon a staff eraill weld sut mae addysg uwch yn gweithio mewn gwledydd eraill a mynd â'r syniadau gorau adref gyda nhw."
Darllenwch fwy am y digwyddiad agoriadol ar ein tudalen newyddion a gallwch wylio'r fideos o rai o'r Llysgenhadon Erasmus yma.
Bydd y British Council yn cynnal digwyddiadau ac yn dathlu'r rhaglen drwy gydol y 25ain flwyddyn hon.
|