Gallwch deithio i unrhyw le yn y byd, ond pan fydd nifer y ceisiadau yn uchel rhoddir blaenoriaeth i rai gwledydd arbennig (rhestrir y rhain yn y Llawlyfr). Dosberthir y teithiau fel rhai siwrnai fer (hedfan am lai na phedair awr) neu siwrnai hir (hedfan am fwy na phedair awr). Ar deithiau siwrnai fer, rhaid treulio o leiaf dri diwrnod yn y sefydliad sy’n bartner. Ar deithiau siwrnai hir y lleiafswm yw pum diwrnod.
Mae Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol Darlithwyr (DPRhD) yn gyfle gwerthfawr i gyflwyno ‘Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang’ (ADCDF) i’ch coleg a sefydlu partneriaeth barhaus gyda sefydliad tebyg mewn gwlad dramor. Byddwch yn elwa trwy ychwanegu gwaith rhyngwladol at eich sgiliau a’ch profiadau, neu trwy ychwanegu at yr hyn a wnaethoch eisoes. Bydd eich coleg yn elwa o’r cyfle i gryfhau partneriaeth sy’n bodoli eisoes neu i sefydlu partneriaeth gwbl newydd y gellir manteisio arni mewn sawl agwedd o addysgu a dysgu, megis ADCDF a chydadwaith aml-ddiwylliannol.
Nid yw hyn yn angenrheidiol cyn belled â bod eich partner yn siarad Saesneg a’ch bod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol.
Byddwn ni’n gyfrifol am drefniadau hedfan a lletya, a rhaid i chwithau drefnu unrhyw deithio yn y DU ac unrhyw deithio o fewn y wlsd y byddwch yn ymweld â hi. Hefyd rhaid i chi sefydlu cyswllt gyda sefydliad partner os nad oes un gennych eisoes, a chyfathrebu’n glir gyda’r partner am bwrpas yr ymweliad ac am eich nodau ac amcanion.
Byddwn ni yn cwrdd â chostau hedfan rhyngwladol, llety, prydau bwyd a chynhaliaeth - i uchafswn pob ymweliad. Byddwn yn amcangyfrif y rhain yn seiliedig ar raddfeydd teithio staff y British Council ar gyfer pob gwlad unigol. Ad-delir costau prydau bwyd a chynhaliaeth wedi i chi ddychwelyd a chyflwyno adroddiad ôl-ymweliad boddhaol. Ni fydd costau teithio domestig yn y naill wlad na’r llall yn cael eu had-dalu.
Mae gennym bolisi yswiriant cynhwysfawr ar eich cyfer tra byddwch yn teithio.
Gallwch estyn eich ymweliad cyn belled â’ch bod yn treulio’r lleiafswm amser yn y sefydliad partner ac yn gwireddu eich nodau a’ch amcanion. Ni fyddwn yn cwrdd â chostau ychwanegol unrhyw lety, prydau bwyd neu gynhaliaeth.
Wedi i chi ddychwelyd gofynnwn i chi gyflwyno adroddiad ôl-ymweliad am eich profiadau a’r hyn a gyflawnwyd ar eich taith. O dderbyn y ddogfen honno, ad-delir costau eich prydau bwyd a chynhaliaeth. Gofynnwn i chi ledaenu gwybodaeth am eich taith a’r buddion all ddod i’ch cydweithwyr – trwy gylchlythyr neu e-bost a thrwy gyflwyniad. Chwe mis yn ddiweddarach gofynnwn am adroddiad dilynol ar fuddion tymor hir y daith a’r modd yr ydych chi a’ch cydweithwyr wedi elwa arni. Fe allwn hefyd ofyn i chi gymryd rhan mewn digwyddiad mewn coleg neu gynhadledd er mwyn lledaenu gwybodaeth am DPRhD i gynulleidfa ehangach.
|