Mae The Selector, rhaglen radio wythnosol sy’n chwarae y gorau mewn cerddoriaeth Brydeinig i gynulleidfa fyd-eang, wedi ymuno â threfnwyr gŵyl Sŵn, i ddod â Chymru i sylw’r byd.
Cydweithrediad diweddaraf 'Selector' yng Nghymru oedd gyda Gŵyl SWN, i recordio digwyddiad byw gyda tri band cyffrous newydd o Gymru i'w ddarlledu yn fyd-eang ar y rhaglen: Truckers of Husk, Kutosis a Gallops.
Gwrandewch ar podlediad o'r rhaglen yma.
Yn cael ei chyflwyno gan DJ Goldierocks a’i chynhyrchu ar ran y British Council, mae The Selector yn cynrychioli popeth sy’n gyffrous a gwreiddiol mewn cerddoriaeth Brydeinig ar hyn o bryd. Does dim sioe radio arall sy’n chwarae cymysgedd mor eclectig o gerddoriaeth newydd o’r DU; fe gewch yma bopeth o indie i electro ac o gerddoriaeth werin i funky.
Mae’r sioe hefyd yn cynnwys cyfweliadau gydag artistiaid, gweithiau wedi eu cymysgu gan y DJ a sesiynau stiwdio unigryw a byw gyda rhai o’r bandiau newydd bob wythnos. Mae’r sioe newydd ar gael i’w ffrydio bob bore Sadwrn (GMT) a gallwch hefyd fanteisio ar archif o sioeau, sesiynau, cyfweliadau a chymysgeddau.
Gwrandewch ar hyn i gyd ar lein...
www.selector-radio.com
Ar hyn o bryd gellir gwrando ar The Selector mewn un ar ddeg o wahanol wledydd gan gynnwys Mecsico, Columbia, Slofacia, Latfia, Hwngari, Indonesia, Fietnam a Tsieina. Mae’r sioe wedi ennill Sony Gold yng nghategori ‘sioe gerddorol wythnosol y flwyddyn’ ac mae’n parhau i hyrwyddo’r DU fel lle ardderchog am greadigrwydd ac amrywiaeth.
|