|
Prif ddyletswyddau aelodau yw:
•Mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor, cynhelir pedwar y flwyddyn fel arfer: tri chyfarfod hanner diwrnod ac un diwrnod llawn i ffwrdd
•Cyfrannu at gyflawni nodau'r Pwyllgor a nodir yn y cylch gorchwyl atodedig
•Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r British Council yng Nghymru am ddatblygiadau mawr ym mywyd cyhoeddus, addysgol, economaidd a diwylliannol Cymru.
•Rhoi cyngor proffesiynol yn eu meysydd arbenigedd, a nodi cyfleoedd newydd
•Creu cysylltiadau â chymunedau yng Nghymru y mae gwaith y British Council yn berthnasol iddynt
•Bod yn eiriolwyr dros waith y Cyngor yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol
•Cyfrannu at waith Cynllun y Wlad a monitro i ba raddau y cyflawnir amcanion y cynllun.
Gallai eitemau busnes arferol cyfarfodydd rheolaidd gynnwys:
•Sesiynau briffio ar strategaeth a pholisïau'r British Council a thrafodaethau ar eu goblygiadau yng Nghymru
•Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau'r British Council yn fyd-eang ac yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar thema/sector gwaith gwahanol ym mhob cyfarfod, a thrafod eu perthnasedd i Gymru
•Ystyried ymchwil i ymgysylltiad y British Council yng Nghymru/ledled y DU
•Cyngor ar reoli cydberthnasau strategol â phartneriaid allweddol yng Nghymru
Mae'n bosibl y gofynnir i aelodau ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol:
•Rhoi cyngor rhwng cyfarfodydd i reolwyr ar strategaeth neu ddatblygu prosiectau
•Cymryd rhan mewn cyfarfodydd â phartneriaid strategol perthnasol
•Mynd i gynadleddau blaenllaw, digwyddiadau ymgynghori, digwyddiadau briffio'r cyfryngau neu ddigwyddiadau lansio prosiectau
Disgwyliwn y bydd angen i aelodau ymrwymo tua tri hanner diwrnod ac un diwrnod llawn y flwyddyn i gyflawni'r rôl, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau ychwanegol a drefnir gan y Cyngor. Mae'n rhaid i aelodau fynd i o leiaf ddau o'r pedwar cyfarfod mewn cyfnod o 12 mis. Caiff aelodau'r pwyllgor eu penodi am gyfnod o dair blynedd, a gellir adnewyddu eu haelodaeth am dair blynedd ychwanegol. Ni chaiff aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru eu talu ond caiff treuliau eu had-dalu ar gyfraddau safonol y British Council.
|