British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cyfleoedd addysgol a chydberthynasau diwylliannol.
Os ydych yng Nghymru, gallwn gynnig i chi fynedfa i’n rhwydweithiau byd-eang. Os ydych yn byw y tu allan i Gymru, gallwn eich helpu i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a chyfleoedd proffesiynol yng Nghymru.
Os ydych yn athro yng Nghymru, gallwn gynnig i chi ac i’ch ysgol y cyfle i sefydlu cyswllt â’ch cymheiriaid yn Ewrop trwy gyfrwng cynlluniau cyfnewid, cyfleoedd datblygu, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Rydym yn gweithio mewn tri prif faes i gryfhau llywodraethu a hawliau cymdeithas yng Nghymru, trwy gyfrwng ein cefnogaeth i brosesau democrataidd, hyfforddiant yn y cyfryngau a phrosiectau mewn amrywiaeth diwylliannol.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ein partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi cydweithrediad a chyfleoedd rhyngwladol i ymarferwyr y celfyddydau ac artistiaid.
Trwy hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, mae gennym rôl unigryw i’w chwarae mewn cynnal y drafodaeth ar wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg y DU, a’r modd y mae’r rhain yn cydadweithio i greu cyfoeth a lles cymdeithasol, fel rhan o sustem arloesi gyffredinol y DU.
Rydym yn helpu i adeiladu perthynas barhaol rhwng gwyddonwyr ac ymchwilwyr ar draws y byd ac yn cefnogi cydweithredu gwyddonol trwy gyfnewid syniadau a gwybodaeth.
Mae ein Polisi Amgylcheddol yn dangos ein hymrwymiad i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Rydym yn defnyddio offer rheoli amgylcheddol sydd wedi’u cydnabod yn rhyngwladol, a gaiff eu haddasu a’u rheoli i gyd-fynd â’n strwythur unigryw.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Lloegr a Chymru) SCO37733 (Yr Alban) Ein datganiadau ar breifatrwydd a hawlfraint. Ein hymrwymiad i ryddid gwybodaeth.