Text only English  Argraffu’r dudalen hon | E-bostio’r dudalen hon| Ychwanegu at ffefrynnau
CYMUNED DDYSGU BROFFESIYNOL RYNGWLADOL

Nodir bod Cymunedau Dysgu Proffesiynol a rhwydweithiau arferion proffesiynol yn strategaeth hanfodol ar gyfer gwella ysgolion yn Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r dull gweithredu hwn, mae British Council Cymru yn cynnig cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn rhaglen Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol.

Mae'r rhaglen Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol eisoes wedi'i threialu'n llwyddiannus gyda grŵp o ysgolion sydd wedi creu cysylltiad ag ysgolion yng Ngholombia Brydeinig drwy eu gwaith Cymuned Ddysgu Broffesiynol. Nod yr ail gam hwn o'r rhaglen Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol yw copïo'r model ar gyfer cysylltu ysgolion Cymraeg ag ysgolion yn UDA drwy eu gwaith Cymuned Ddysgu Broffesiynol. Y nod cyffredinol yw meithrin a chynnal Rhwydwaith Rhyngwladol unigryw o Gymunedau Dysgu Proffesiynol sy'n cynhyrchu arferion effeithiol ac yn eu rhannu.

Drwy'r rhwydwaith Cymunedau Dysgu Proffesiynol rhyngwladol, caiff ymarferwyr y cyfle i gynhyrchu arfer arloesol a derbyn gwybodaeth newydd am yr arfer proffesiynol mwyaf effeithiol drwy ryngweithio ag athrawon mewn gwledydd eraill.

Bydd rhagor o gyfleodd i athrawon i gymryd rhan yn y rhaglen yn debygol i fod ar gael yn 2012. Os hoffech dderbyn gwybodaeth ar rhain wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi cysylltwch â wales.enquiries@britishcouncil.org.

Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol.
Elusen gofrestredig: 209131 (Lloegr a Chymru)
SCO37733 (Yr Alban)
Ein datganiadau ar breifatrwydd a hawlfraint.
Ein hymrwymiad i ryddid gwybodaeth.
 Positive About Disabled People